Rhosneigr

Cerddoriaeth & Digwyddiadau

Prosiect Cymunedol

Am y Prosiect

Wyt ti’n berson ifanc rhwng 14 a 21 oed gyda brwdfrydedd am gerddoriaeth, creadigrwydd, neu gynllunio digwyddiadau? Dyma dy gyfle i fod yn rhan o rywbeth arbennig! Eleni, mae gwirfoddolwyr o’r pentref yn trefnu gŵyl gerddoriaeth haf fach i gefnogi artistiaid a thalent lleol – ac RYDYN NI eisiau i ti helpu siapio’r digwyddiad o’r dechrau.

Dyw hon ddim yn ŵyl arferol – mae’n brosiect sy’n cael ei arwain gan y gymuned i gefnogi artistiaid lleol wrth roi pŵer i bobl ifanc ddysgu, tyfu, a gwneud gwahaniaeth. P’un a wyt ti’n breuddwydio am fod ar y llwyfan, y tu ôl i’r llenni, neu’n hyrwyddo’r digwyddiad i’r byd – mae lle i ti yma!

Gweithdai

Ry’n ni’n cynnig gweithdai ymarferol a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau yn:

  • Ysgrifennu Caneuon: Mynegi dy hun a chreu cerddoriaeth wreiddiol.

  • Cynhyrchu Cerddoriaeth: Dysgu’r grefft o recordio, golygu, a chynhyrchu traciau.

  • Perfformio: Magu hyder a presenoldeb ar y llwyfan i ddisgleirio o flaen cynulleidfa.

  • Marchnata ar Gyfryngau Cymdeithasol: Meistroli’r offer i hyrwyddo digwyddiadau a chysylltu â chynulleidfaoedd.

  • Sgiliau Busnes Bach: Deall cyllidebu, codi arian, a rheoli adnoddau.

  • Rheoli Digwyddiadau: Cynllunio a threfnu profiad gŵyl anhygoel.

A dyna ddim y cyfan! Dyma dy brosiect di, felly ry’n ni eisiau clywed dy syniadau di. Beth wyt ti eisiau dysgu? Sut wyt ti eisiau i’r ŵyl edrych? Gad i ni ei wneud gyda’n gilydd.

Pam Ymuno

  • Profiad Bywyd Go Iawn: Ennill sgiliau ymarferol y gelli di eu defnyddio mewn swyddi, addysg, neu brosiectau personol.

  • Creu Rhwydwaith: Cysylltu ag artistiaid lleol, gweithwyr proffesiynol, a chreadigol eraill.

  • Gwneud Gwahaniaeth: Helpu i gefnogi talent lleol a dod â’r gymuned ynghyd.

  • Cael Hwyl: Bod yn rhan o brosiect cydweithredol ac ysbrydoledig sy’n dathlu cerddoriaeth, creadigrwydd, a gwaith tîm.

Cymer Rhan

Ry’n ni’n dechrau gyda chyfres o sesiynau cynllunio a gweithdai ble cei di gyfle i rannu dy syniadau a chwrdd â phobl debyg, y cyntaf fydd yn cael ei gynnal ar:

Diddorol? Cofrestrwch eich diddordeb isod neu anfonwch neges atom i ddysgu mwy.

Y Tîm

Bydd camau cynnar y prosiect yma’n cael eu harwain gan breswylwyr lleol sydd eisiau gwneud gwahaniaeth.

Helen Sanderson a Kirsty Ashburner wnaeth sefydlu Cwmni Jin Rhosneigr yn 2024 i ddathlu prydferthwch y pentref. Mae pob potel sy’n cael ei werthu neu wydraid sy’n cael ei fwynhau yn y dafarn neu’r bwytai lleol yn rhoi yn ôl i’r pentref. Dyma’r prosiect cymunedol nesa iddyn nhw, a maen nhw’n edrych ymlaen yn eiddgar i’w weld yn tyfu.

Shell Harris a Alex Dop: Sylfaenwyr The Inscape Studios, Llundain yn 2019 gyda’r bwriad o ddod â chynhyrchu cerddoriaeth a chyfansoddi caneuon fforddiadwy i artistiaid annibynnol. Nawr maen nhw’n dod â’u stiwdio fach i Ogledd Cymru gyda’r gobaith o ddwyn yr ethos hwn i’r gymuned leol – gan ddechrau gyda’r prosiect yma!

Cofrestrwch Eich Diddordeb!

Cofrestrwch eich diddordeb trwy lenwi’r ffurflen isod. Os ydych chi’n riant/gwarcheidwad yn gwneud cais ar ran ymgeisydd, rhowch yr wybodaeth gyswllt orau ar eu cyfer – p’un ai eich gwybodaeth chi, neu eu gwybodaeth hwy.